Ymgyrchu dros barth rhyngrwyd .cym
dotCYM

Fydd Cymru'n elwa o'r Newid Mawr Nesaf ar y Rhyngrwyd?

Bydd newid anferth arall ar y We yn 2010:


Mae ICANN, y corff sy'n gyfrifol am reoli enwau parth (.com, .org, .uk ayyb), wedi datgan y byddant yn derbyn ceisiadau am GANNOEDD O ENWAU NEWYDD. Mae'r ras wedi cychwyn - mae Berlin eisiau .berlin, mae Llundain am gael .london, mae New York yn awyddus i ennill .nyc, a dim ond megis cychwyn ydy hynny.

Cafwyd dotCYM ei sefydlu er mwyn ceisio ennill .cym i Gymru. Os bydd Cymru yn llwyddiannus wrth geisio am ei henw parth ei hunan, bydd gennym fynediad at:

• Enwau parth da (byr, disgrifiadwy, cofiadwy) ar gyfer busnesau Cymru, bydd yn llawer rhatach na'r miloedd o bunnoedd mae'n cymryd erbyn hyn i brynu enw .com da

Hwb sylweddol ar ran marchnata busnesau Cymru gyda'n porteli ein hunain - bydd gwestai.cym ac ymweld.cym yn rhoi hwb i dwristiaeth a thorri ar gostau hysbysebu (ar y funud, mae chwilio am 'welsh hotel' ar Google yn dychwelyd 3,460,000 o ganlyniadau, ond mae llai na 5000 o westai a llefydd gwely a brecwast - mae'r canlyniadau ychwanegol yn ddiolch i ystod eang o ail-werthwyr o tu allan i Gymru, ac mae'r costau ychwanegol maent yn eu creu yn cael eu trosglwyddo i ymwelwyr, sydd yn ein gwneud ni yn llai cystadleol)

• Canlyniadau chwilio gwell - mae Google a Yahoo wedi cadarnhau y bydd parthau lleol fel .cym yn gwneud yn well yn y peiriannau chwilio ar gyfer ymchwiliadau sydd yn cynnwys termau cysylltiedeg fel Cymru neu Wales

Bydd cael ein parth ein hunain hefyd yn golygu y bydd mwy o wario arlein yng Nghymru yn aros yng Nghymru - hyd yma, mae pobl sy'n gwario arlein yng Nghymru yn gwario'r rhan helaeth o'u harian y tu allan i Gymru, sydd yn golled ariannol fedr ein heconomi ddim eu fforddio. Bydd amlygu busnesau Cymru yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddewis prynu yn lleol. Hefyd, bydd enw .cym yn ei gwneud hi'n haws i ddatrys eDrosedd yng Nghymru, a hefyd eDrosedd sydd yn targedu defnyddwyr yng Nghymru, ac felly yn gwneud Cymru yn lle mwy ddiogel i fod arlein.

Mae Cymru YN medru llwyddo yn yr oes digidol.


NEWYDDION dotCYM - Ebrill 2010

John Jones ar y Bwrdd Mae dotCYM Cyf yn falch i gadarnhau fod John Jones wedi ymuno fel aelod newydd o Fwrdd y Cwmni. Mae profiad John ym myd busnes a telegyfathrebu yn fawr. Bu’n gweithio i BT am bedwar degawd nes [...]

Cylchlythyr Chwefror 2009

2009 – blwyddyn dotCYM? Ymddiheuriadau’n gyntaf am ein tawelwch diweddar - ond, fel y gwelwch o’r rhifyn yma, rydym wedi bod yn brysur iawn! Yn bwysicach nag hyn yw bod sawl darn calonogol o newyddion ar gyfer cef[...]

Darllen mwy → Comments Off

Cyngor Dinas Caerdydd yn cefnogi dotCYM

Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Caerdydd wedi cefnogi cais i Gymru ennill ei pharth lefel uchaf (Top Level Domain) - .CYM. Bydd y parth newydd yn rhoi’r dewis i bobl Caerdydd ddewis .CYM neu’r enwau llai penodol fel .com,[...]

Peter Black yn gofyn cwestiwn am dotCYM

Mae un o gefnogwyr cynharaf cais dotCYM, Peter Black AC, wedi gosod cwestiwn yn y Senedd i’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC. Mae diddordeb a chefnogaeth cyson Peter Black i’r cais yn arwydd bychan [...]

Darllen mwy → Comments Off