dotCYM

Meini prawf y Llywodraeth yn ffafrio Nominet
Ar y 9fed o Ragfyr 2011, gwahoddodd Llywodraeth Cymru ddarpar ymgeiswyr am barth-lefel uchaf  i Gymru i gyflwyno eu cynigion

Mae’r hysbysiad a’r meini prawf yn wahanol iawn i’r hyn a ddisgwylir:

Crëwyd dotCYM er mwyn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru ar barth lefel-uchaf  i Gymru a’r gymuned Gymreig ledled y byd ac mae wedi bod yn gweithio gyda’r Llywodraeth dan y ddealltwriaeth hon ers blynyddoedd.  Mae’r Llywodraeth nawr wedi torri ei addewid o fenthyciad o £300,000 i dotCYM ac wedi creu meini prawf fyddai’n golygu fod angen $185,000 yn fwy na’r swm gwreiddiol hynny.  Mae disgwyl i dotCYM allu cystadlu yn y ‘gystadleuaeth deg’ hwn.

Rhaid i’r ymgeisydd ddweud am ba enw(au) y bydd yn cyflwyno cais i ICANN.  Dylai’r Llywodraeth wybod pa enw(au) maent eisiau.  Pam gofyn i’r ymgeiswyr i ddyfalu?

Mae 20% o’r pwysiad am yr enw(au), prif weithgareddau’r cwmni, gwybodaeth staff, dadansoddi’r farchnad, cynllun marchnata, cynulleidfa darged a’r gwasanaethau a ddarperir.  Mae pwysiad o  60% ar allu technegol, diogelwch a statws ariannol, ac ond 20% ar gyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru.  Bydd yr 80% cyntaf yn cael eu hasesu gan ICANN fel rhan o’r cais.  Dylai’r buddion i Gymru a’r gymdeithas Gymreig fyd-eang gael blaenoriaeth yn lle cael ei ychwanegu ar y diwedd gydag ond 20% o bwysiad.

Mae’r  20% o bwysiad i anghenion Cymreig ond yn ymwneud â’r economi.  Byddai parth lefel-uchaf Cymreig yn fuddiol i’r economi, er enghraifft, mae dotCYM yn amcangyfrif y bydd oddeutu 75% o’i gwsmeriaid yn gwmnïau o Gymru fydd yn defnyddio’u parth Cymreig i dargedu cwsmeriaid yng Nghymru.  Ond sut gall y llywodraeth feddwl taw dyma’r unig fudd gwerth ei asesu yn y meini prawf?  Dydy’r parth lefel-uchaf ddim yn ateb cyflym i’r economi, ac mae llawer o fuddiannau tymor byr a thymor hir eraill i’w asesu.

Mae cymuned ICANN, gan gynnwys Llywodraeth Prydain, fel aelod o Bwyllgor Llywodraethol Ymgynghorol ICANN, yn cytuno taw’r cymunedau sy’n mynd i gael y fwyaf o fudd o’r parthau lefel-uchaf newydd yw’r cymunedau diwylliannol ac ieithyddol.  Ond yr unig ofynion ar y pynciau hyn yw bod y cwmni yn cynnig gwasanaeth dwyieithog.  Does dim sôn o gwbl am hybu’r diwylliant na’r iaith.

Ni fydd y llywodraeth nawr yn ariannu’r project hwn.  Bydd parth lefel-uchaf yn ychwanegiad pwysig i isadeiledd Cymru ac yn bwysig i’r economi.  Mae’n offeryn gwych i hybu diwylliant ac iaith Cymru ac i ddatblygu rhwydwaith gyda’r Cymry byd-eang.  Ond dydy’r Llywodraeth ddim yn gweld rheswm i ariannu’r fath broject – hyd yn oed gyda benthyciad fyddai’n cael ei ad-dalu’n gyflym.  Pam?  Oherwydd bod cwmni o Loegr yn cynnig ei wneud am ddim .  Pam cefnogi twf diwydiant technoleg uwch perthynol i’r we a pharthau yng Nghymru os oes posibilrwydd am gytundeb PFI gan gwmni o du allan i Gymru?

“Mae’r meini prawf yma’n rhyfeddol.  Maent yn dangos diffyg diddordeb a dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o fuddion parth lefel-uchaf i Gymru”, dywedodd Maredudd ap Gwyndaf, Cyfarwyddwr dotCYM, “Mae gweision sifil Cymru o hyd wedi ei wneud yn glir i ni y byddai’n gwneud eu bywyd nhw’n haws i weithio gyda Nominet a nawr mae Edwina Hart wedi rhoi’r rhyddid iddynt i greu tendr sydd i weld i fod wedi ei gynllunio’n arbennig o ffafrio Nominet.  Dyw’r llywodraeth ddim hyd yn oed yn esgus fod ganddo’r awydd i gefnogi arloesedd yng Nghymru.”

Wrth i dotCYM ymofyn cyngor cyfreithiol brys ynglŷn â’r gystadleuaeth annheg yn erbyn Nominet, cyflwynwyd y llythyr canlynol i’r llywodraeth i ofyn adolygiad o’r meini prawf ac estyniad ar y dyddiad cau.  Mae dotCYM nawr yn aros am ymateb o’r llywodraeth.

Llythyr i Lywodraeth Cymru, Ionawr 6ed 2012.

In reference to the speculative notice, procurer reference 6656/11B4W, “Top Level Domain Name for Wales”, dotCYM would like to ask for the deadline to be extended.

On 20th December ICANN released a draft document outlining the Applicant Support Program.  This is now open for public comment until the 10th of January and the criteria is expected to be finalised sometime after that.  It may very well be applicable to the Welsh application and would result in lowered application fees.  We suggest that it would be premature for the government to seek applications before that process is closed.  When the government published the speculative notice it was not known that ICANN were going to do this, but now that it has, the only sensible course of action would be to delay the process until ICANN has concluded its own process.

dotCYM’s understanding is that the only other bid likely to be presented will be from Nominet.  dotCYM is seeking urgent legal advice in respect of competition law and related issues that this potential bid raises.  The involvement of Nominet raises questions that significantly adversely impact on dotCYM’s ability to compete fairly in the process and those issues need further review and, quite possibly, determination by the appropriate authority.

The government’s decision to create an open competition for the ownership and control of the Welsh top-level domain should be reviewed.  The governments of London, Scotland, Brittany, the Basque County, Galicia and Bavaria, among others, are working with local companies to build a strong, successful, community driven TLD.  dotCYM believes that the Welsh government should keep control of the top-level domain in Wales and cooperate with a local company to build this important infrastructure; infrastructure that will lead to more local companies developing a domain and internet industry that would compete in this market.  We have been working towards this for a number of years, alongside the government and with a broad base of community support.  A PFI-style agreement with a company foreign to the Welsh community would not be to the benefit of Wales and the criteria set out by the government should reflect this need.

Since the government has only recently resiled for its previous position, which gave dotCYM a legitimate expectation that funds and support would be provided to support its bid to ICANN, it would be fair to extend the deadline.  Since dotCYM was set up especially to cooperate closely with the government on a top-level domain for Wales and the Welsh community worldwide, it did not have the time and resources to prepare a bid that could compete against Nominet in such a short amount of time over the Christmas holidays.  There is the added problem that Nominet has been publicly misrepresenting dotCYM by saying that it does not represent the business community in Wales, only the cultural and linguistic community.  More time is needed to garner support with politicians and businesses due to the doors closed by this untruth.

dotCYM also has concerns about the influence of Nominet Trust money with government officials.

Due to the above issues and also additional issues that dotCYM reserves the right to raise in due course - we ask that you delay the deadline for futher review of the situation and the criteria.  The closing of the application process to ICANN isn’t until the 12th of April, so there is sufficient time for the Welsh government to endorse a candidate.

Yours sincerely

Maredudd ap Gwyndaf

Cymru Ar-lein - Swyddogaeth y Llwyodraeth
Am dros chwe blynedd mae dotCYM wedi bod yn gweithio i sicrhau na fydd Cymru a’r gymuned Gymraeg byd-eang yn colli’r cyfle i gael ei pharth lefel-uchaf (PLU) eu hunain.  Byddai hyn yn galluogi gwefannau i gael cyfeiriad .cymru, fel www.enghraifft.cymru yn lle www.enghraifft.com neu www.enghraifft.co.uk.  Mae wedi cydweithio gydag unigolion a chyrff yng Nghymru a gweddill y byd sydd yn llawn cynnwrf wrth ystyried y posibilrwydd o barthau lefel-uchaf ar gyfer eu cymunedau.  Yr unig fan y maent wedi wynebu gwrthwynebiad a diffyg diddordeb yw gyda Llywodraeth Cymru ei hun.  Nid yw’r gweision sifil wedi dangos iot o ddiddordeb ac maent wedi cynghori’r Gweinidogion nad yw hyn yn fater o bwys o gwbl.  Ymgeisiodd dotCYM gydweithio’n agos bob amser gyda swyddogion y Llywodraeth ond roedd yn dasg amhosibl.  Mae’r Llywodraeth nawr wedi datgan mai ei hunig ddiddordeb yw darparu’r llythyr o gefnogaeth sydd yn angenrheidiol ar gyfer y cais.  Mae ceisiadau eraill fel .scot, .gal (Galisia), .eus (Gwlad y Basg) a .bzh (Llydaw) i gyd yn gweithio gyda’u llywodraethau oherwydd maent yn deall pwysigrwydd bod yn gyfrannol mewn rhedeg eu PLU.  Mae’r Greater London Authority yn cymryd cyfrifoldeb dros y cais .london.  Roedd dotCYM yn y cyfarfod yn Neuadd y Ddinas ym Mharis pan gyhoeddodd y maer fod €1m yn mynd i gael ei fuddsoddi yn y PLU ar gyfer y ddinas, .paris.

Mae dotCYM a’i filoedd o gefnogwyr – cyrff preifat a chyhoeddus ynghyd ag unigolion – yn credu fod hyn yn fenter gyffrous, menter fydd yn ychwanegiad pwysig i is-strwythur Cymru.  Bydd yn werthfawr i fusnes, yn hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant ac yn cynorthwyo’r diwydiant twristiaeth i sefyll allan o weddill y DU.

Mae wedi cymryd blynyddoedd i ICANN, corff llywodraethol enwau ar y we, i ddechrau’r broses am PLUau newydd.  Yn ystod yr holl flynyddoedd o drafod, dadlau ac anghydfod rhwng yr amryfal grwpiau gwahanol fel corfforaethau mawr, perchnogion nodau masnach, llywodraethau a gwerthwyr parthau, roedd ond un grŵp o barthau lefel-uchaf oedd wedi ennill cefnogaeth y mwyafrif – sef y PLUau diwylliannol a ieithyddol.  Mae cefnogaeth byd eang iddynt gan eu bod yn dwyn mwy o amrywiaeth i’r we.

Mae llawer o ddadlau dros les .sport, .movie, .bank, .health a channoedd o PLUau eraill ond ar ôl gweithio am flynyddoedd ar PLU ar gyfer y gymuned Gymreig, gan weithio’n agos gyda’r Albanwyr, y Llydäwyr, Galisiaid, Basgiaid a’r Catalaniaid, lobïo ICANN a’r UE, trafod gyda Llywodraeth Prydain, mynd i gynadleddau ICANN yn yr Aifft, Puerto Rico, Portiwgal, Ffrainc a Gwlad Belg, roedd yr unig wrthwynebiad i PLUau diwylliannol yn dod o du Llywodraeth Cymru a’i swyddogion.

Ond pam ddylai’r llywodraeth ymddiddori yn ei PhLU – brand y wlad a’r gymuned ar-lein – ac mewn trefn rheoli’r we yn gyffredinol?  Mae Llywodraeth Prydain yn cymryd diddordeb yn y materion hyn ac yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad y we.  Er enghraifft,

Mae cynrychiolwyr y DU yn  gweithio gyda phob corff mawr sy’n llunio’r we gan gynnwys bod yn aelod pwysig o’r Pwyllgor Llywodraethol Ymgynghorol yn ICANN.

Maent yn gweithio’n agos gyda Nominet, sy’n berchen ar ac yn rhedeg y PLU .uk, gan werthfawrogi pwysigrwydd enw’r wlad ar y we.

Oherwydd problemau ar Fwrdd Nominet yn 2008/2009 ychwanegodd y Llywodraeth gymal yn y Ddeddf yr Economi Ddigidol i alluogi’r Llywodraeth Brydeinig i gymryd rheolaeth o unrhyw BLU o’r DU os nad oedd yn cael ei redeg yn foddhaol.  Ni fyddant wedi gwneud hyn os nad oeddynt yn credu for PLU’r wlad yn bwysig.

Mae nifer o ddigwyddiadau yn San Steffan bob blwyddyn i drafod pob agwedd o’r we gan gynnwys diogelwch, trefn rheoli, PLUau newydd a’r PLU .uk.

Gellir dadlau nad oes angen i Lywodraeth Cymru boeni am y materion hyn gan fod Llywodraeth y DU yn weithgar ac yn cynrychioli Cymru hefyd.  Fel mae’n digwydd dyw parthau lefel-uchaf ddim yn fater sydd wedi ei ddatganoli.  Mae’r cyfrifoldeb am benderfynu pa gwmni sy’n rhoi cais i mewn am BLU i Gymru yn gorwedd gydag Ed Vaizey, Gweinidog Diwylliant, Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol, yn Llundain.

Dyw dotCYM ddim yn meddwl fod hyn yn esgus dros ddiffyg uchelgais a dychymyg gan Lywodraeth Cymru.

Pam nad yw mater PLU Cymru wedi ei ddatganoli?  Ydy Cymru wedi gofyn i’r pwerau o fewn Deddf yr Economi Ddigidol gael eu datganoli?  Pam nad yw Cymru wedi sicrhau ei fod ar y rhestr ISO3166-1 o wledydd er mwyn gallu cael PLU gwlad dwy lythyren?  Mae un gan Ynysoedd Aland (.ax), gyda phoblogaeth o 30.000 ac Ynysoedd y Ffaro (.fo) gyda phoblogaeth o 50,000; pam nad oes un gan Gymru gyda 3 miliwn o bobl?

Mae dotCYM yn gwahodd Edwina Hart, Gweinidog Busnes, Menter a Thechnoleg, i newid polisi’r Llywodraeth a dechrau gweithio gyda yn hytrach nag yn erbyn dotCYM er mwyn sicrhau PLU i’r Cymry. Drwy weithio gyda dotCYM, gall Cymru ddefnyddio ac ychwanegu at yr arbenigedd helaeth o fewn busnesau, prifysgolion a llywodraeth yng Nghymru i greu ecosystem fenter uchel-dechnoleg fydd yn gwasanaethu Cymru ac yn cynnig gwasanaethau arbenigol i’r farchnad ryngwladol.

Yr opsiwn arall yw rhoi’r gwaith i gyd i Nominet yn Rhydychen fel y mae’r Llywodraeth yn ystyried gwneud.  Mae Nominet wedi creu Pwyllgor Ymgynghorol yng Nghymru i roi wyneb Cymreig iddynt eu hunain.  Efallai y gwnânt ddechrau cwmni yng Nghymru fel cuddwisg ychwanegol i drio twyllo’r Cymry fod eu PLU yn berchen i ac yn cael ei redeg gan gwmni brodorol o Gymru.  Ai dyma’r neges mae Cymru eisiau rhoi i’w phobl ei hunan,  pobl sy’n fodlon defnyddio eu gallu a’u hangerdd i weithio’n galed am flynyddoedd er mwyn Cymru – peidiwch drafferthu, gallwn ddod o hyd i gwmni cyfoethog o Loegr i wneud y gwaith i ni?  Ydyn ni’n mynd i ddechrau cystadlu neu ydyn ni’n mynd i’n dibrisio’n hunain unwaith eto?  Ydyn ni’n mynd i adael i gwmni tramor sydd â monopoli yn y farchnad i brynu ei ffordd i mewn i Gymru a lladd y gystadleuaeth Gymreig neu ydyn ni’n mynd i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod Cymru yn  cadw perchnogaeth a rheolaeth o’i pharth lefel-uchaf ei hunan?

Mae dotCYM yn credu fod yn rhaid i Gymru gystadlu.  Mae rhaid i’r Llywodraeth i gymryd diddordeb a chwarae ei rhan yn natblygiad PLU Cymru a’r gymuned Gymraeg fyd-eang.  Dyw datgan diffyg diddordeb a gwrthod gweithio gyda menter gymdeithasol Gymreig sydd wedi bod yn gweithio am chwe blynedd ar y mater, gan wahodd corfforaeth fawr o du allan i Gymru sydd â monopoli o’r farchnad i gystadlu yn ei herbyn ddim yn dderbyniol.  Mae’r Alban yn cefnogi Dot Scot Registry, fydd yn ceisio am BLU .scot, oherwydd maent  eisiau cefnogi menter leol a chadw rheolaeth o’i PhLU.  Ni fyddent wedi dychmygu mynd at Nominet fel y gwnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru ar ôl yr etholiad.

Mae’n rhaid rhoi’r cyfrifoldeb i swyddogion y Llywodraeth sydd a’r gallu a’r diddordeb i weithio gyda dotCYM a’r nifer o gyrff Cymreig a rhyngwladol maent wrthi’n cydweithio â hwy i sicrhau eu bod yn deall PLUau a threfn rheoli’r we yn llawn.

Tro nesaf y bydd dotCYM yn mynd i gynhadledd ICANN dylai swyddog y Llywodraeth ddod hefyd i gynrychioli a rhoi llais i fuddiannau Cymru.

Pan fyddai rowndiau dilynol o geisiadau am PLUau yn dechrau bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff eraill sy’n ymwneud a PhLU Cymru yn gallu cynnig ei harbenigedd a’u profiad i gynorthwyo diwylliannau a chymunedau lleiafrifol eraill sydd eisiau’r un gwelededd a Chymru ar-lein.

Dyw PLUau ddim yn faterion sydd wedi eu datganoli a than i Gymru allu profi ei haeddfedrwydd yn y materion yma rhaid i Lywodraeth Prydain sicrhau fod y rheolaeth yn aros yn Llundain.  Mae’r modd mae Cymru yn trafod y PLU newydd yma yn brawf pwysig o’r aeddfedrwydd hwn.  Mae dotCYM yn poeni fod swyddogion Llywodraeth Cymru  yn rhoi’r cyngor anghywir i’r Gweinidogion sy’n adlewyrchu’r diffyg hyder, gweledigaeth, diddordeb a gallu.

Bydd dotCYM yn parhau i weithio ar gyfer y gymuned Gymreig fyd-eang yn y gobaith y byddant o’r diwedd yn gallu dechrau cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y mater pwysig iawn hwn.

Mae amser yn brin a does ond un cyfle.  Unwaith mae Cymru yn rhoi rheolaeth o’i pharth lefel-uchaf i Nominet, ni fydd fyth yn ei adennill.

Anhygoel! Prif Weinidog Cymru yn erbyn .cymru!
Hollol anhygoel. Dyna’r unig eiriau. Mae Prif Weinidog ein gwlad, Carwyn Jones, wedi datgan ei fod yn erbyn parth Cymraeg i Gymru!

Mewn dadl ar lawr y Cynulliad heddiw (8 Tachwedd 2011), datganodd Carwyn Jones - sy’n siarad Cymraeg wrth ddelio gyda’r wasg a’r cyfryngau - ei fod yn erbyn cais i gael .cymru. Daeth hyn yn sgil cwestiwn gan Elin Jones AC gyda’r awgrym cryf ei fod o blaid .wales. Ymddengys nad oedd modd cefnogi cais dros gael .cymru a .wales hefyd.

Nid yn unig felly nad yw ef ei hun o blaid parth .cymru, ond wrth ei ateb mae’n nacau y cyfle i filoedd ar filoedd o Gymry eraill - yn siaradwyr Cymraeg neu beidio - rhag cael y dewis o brynu .cymru yn y dyfodol.

Cyfyd sawl cwestiwn. Lle mae’r Gweinidog â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, Leighton Andrews AC (dyn sydd wedi dangos gweledigaeth a gwneud gwaith da iawn o blaid normaleiddio’r Gymraeg yn y system addysg) yn hyn? A’i anwybyddwyd neu na gododd ei lais? Sut mae penderfyniad Carwyn Jones yn gwneud synnwyr (os o gwbl) fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i roi statws i’r iaith Gymraeg? Ydy’r Mesur Iaith a gwaith y Comisiynydd Iaith werth y papur mae wedi ei sgwennu arno neu, ai jyst ‘darn o bapur’ ydyw wedi’r cyfan?

A rhoi pwnc yr iaith i’r neilltu, mae penderfyniad Carwyn Jones hyd yn oed yn fwy anhygoel o gofio poblogrwydd ‘Cymru’ ymysg sefydliadau Cymru a changhennau Cymreig o sefydliadau Prydeinig. Defnyddir ‘Cymru’ yn falch ac heb unrhyw drafferth gan sefydliadau mor amrywiol â Shelter Cymru, NFU Cymru, RSPB Cymru. Mae Carwyn Jones a’r Blaid Lafur i bob pwrpas yn troi’r cloc yn ôl ar dros ddegawd o ddefnydd di-rwgnach a di-drafferth o’r gair Cymru gan gymdeithas Cymru.

Anhygoel.

Cefnogi’r Cais
Yn Ionawr 2012, wedi disgwyl am saith mlynedd, agorir y cyfle i gyflwyno ceisiadau am barthau lefel uchaf newydd – gan gynnwys .cymru. Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru mae dotCYM am sicrhau y cyflwynir cais .cymru.

Y cais ar gyfer parth (domain) Gymreig gan dotCYM Cyf yw’r unig gais o Gymru. Breiniwyd y tir ar gyfer cais Cymreig gan dotCYM ers 2006. Buont yn gyfrifol am lobio cyrff a llywodraethau er mwyn sicrhau fod cefnogaeth i gais o Gymru. Mae eu cais wedi denu cefnogaeth gan filoedd o unigolion, busnesau, cymdeithasau, clybiau a sefydliadau ar draws Cymru a’r gymuned Gymreig fyd-eang.

Roedd y cais wreiddiol ar gyfer parth tair llythyren CYM, ond oherwydd newid yn y rheolau gan y corff sy’n rheoli enwau ar y we, ICANN, bu’n rhaid gwneud dewis arall. Holodd dotCYM bobl drwy’r wasg a’r rhyngrwyd am eu hoff opsiwn, a .cymru oedd y dewis hwnnw.

‘Cais dotCYM yw’r unig gais o Gymru, gan bobl Cymru ac ar gyfer pobl Cymru. Nid yw’n gangen bellennig o gais arall. Mae’n arwydd o hyder y gall Cymru gael statws rhyngwladol amlwg ar y we sy’n tynnu ynghyd amrywiaeth gwasanaethau, hunaniaeth a thechnoleg y rhyngrwyd Cymreig. Rydym yn hyderus y bydd Llywodraeth Cymru yn dangos ffydd mewn busnes cynhenid Cymreig ac yn cefnogi’r cais o Gymru,’ medd Siôn Jobbins, Prif Weithredwr dotCYM Cyf.

Croeso i dotCYMRU!
.cymru yw’r enw swyddogol fydd yn cael ei ddefnyddio yn y cais i gael statws i’r gymuned Gymreig a Chymraeg ar y we.

Daw hyn yn sgil y penderfyniad gan ICANN na fyddai’r gymuned Gymreig yn gallu defnyddio’r talfyriad tair llythyren â chydnabyddiaeth fyd-eang i’r Gymraeg, CYM.

Yn dilyn ymgynghori eang gan gynnwys storïau yn y wasg Gymreig, Brydeinig a phroffesiynol, y dewis mwyaf poblogaidd o bell ffordd oedd i’r cais ddefnyddio .cymru ar gyfer Parth Lefel Uchaf.

.cymru oedd dewis fwyaf poblogaidd o blith ymatebion gan siaradwyr Cymraeg a’r rheini nad oedd yn siarad yr iaith. Mae hefyd yn cwmpasu holl nôd y cais, sef parth ar gyfer cymuned ieithyddol a diwylliannol Cymraeg a Chymreig.

Er fod parthau dwy neu daith llythyren wedi bod fwyaf poblogaidd yn ystod cyfnod cyntaf y rhyngrwyd, crêd Siôn Jobbins, ar ran y cais, fod .cymru yn ddewis rhagorol.

‘Mae’r parth yma, wrth reswm, yn hirach na pharthau megis .de neu .ie ond mae’n fyrrach neu’r un hyd â pharthau amlwg ac uchel eu parch megis .org.uk neu .co.uk. Oddi fewn i Gymru (sef prif farchnad y parth) mae’r enw Cymru yn adnabyddus ac yn boblogaidd. Dros y pymtheg mlynedd ddiwethaf rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y cwmnïau, sefydliadau a chlybiau sy’n arddel yr enw Cymru a hynny ar draul Wales.’

Rheolau’n newid: ‘cym’ ddim yn bosib
Mae’r rheolau ynglŷn ag enwau derbyniol ar gyfer parthau lefel uchaf newydd wedi newid.

Mae ‘CYM’ wedi ei chadw ar gyfer Ynysoedd Cayman, er bod ganddynt eisoes .ky. Dydy’r llythrennau ‘CYM’ felly ddim ar gael ar gyfer y gymuned Gymraeg a Chymreig i’w defnyddio ar y rhyngrwyd.

Byddwn yn dewis parth lefel uchaf newydd i gynrychioli’n cymuned. Mae angen un sy’n cyd-fynd â chriteria’r cais a gyflwynir i ICANN, y corff sy’n rheoli enwau ar y rhyngrwyd.

Rydym angen parth lefel uchaf fydd:

a) yn cael ei hadnabod fel un sy’n cynrychioli’r gymuned Gymreig

b) yn adlewyrchu a hyrwyddo gwerthoedd y cais ar gyfer parth lefel uchaf i’r gymuned ddiwylliannol a ieithyddol

c) ar gael i’w ddefnyddio gan y gymuned Gymraeg a Chymreig yn fyd-eang: unigolion, clybiau a chymdeithasau, busnesau a chyrff llywodraethol

Hoffem glywed eich barn.

Beth yw’ch barn chi ar .cymru, .cwl (Cymru Wales) a .wales?

Pa barth lefel uchaf sydd well gennych chi ac a oes unrhyw rai yr ydych yn eu herbyn?

A ydych yn siarad fel unigolyn neu ar ran gorff arall?

Gallwch gysylltu â ni ar dotcym@dotcym.org

NEWYDDION dotCYM - Ebrill 2010
John Jones ar y Bwrdd

Mae dotCYM Cyf yn falch i gadarnhau fod John Jones wedi ymuno fel aelod newydd o Fwrdd y Cwmni.

Mae profiad John ym myd busnes a telegyfathrebu yn fawr. Bu’n gweithio i BT am bedwar degawd nes gadael yn 2003 a sefydlu ei gwmni ei hun, eLINIA. Tra bu’n BT roedd yn Uwch Reolwr Datblygu Systemau BTUK, Pennaeth Gwasanaethau Gwybodaeth BTUK ac Is-lywydd BT Ignite.

Mae eLINIA wedi eu lleoli yng Nghaerdydd ac yn cyflenwi gwasanaeth cynnal diogel i gwmnïau mawrion gan gynnwys Honda, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a gwasanaeth darlledu’r Cynulliad.

CYM ac Ynysoedd y Cayman

Mae’n edrych yn debyg y bydd rhaid i dotCYM Cyf ystyried enw newydd ar gyfer parth i’r Gymuned Gymraeg a Chymreig. Oherwydd defnydd Ynysoedd y Cayman yn y Caribî o’r côd ISO CYM ar gyfer rhan o’u diwydiant llongau mae’n bur debyg na fyddwn yn gallu defnyddio’r talfyriad CYM ar gyfer ein cymuned.

Rydym mewn trafodaethau gyda Llywodaeth Cynulliad Cymru i benderfynnu ar y talfyriad TLD orau a mwyaf pwrpasol ar gyfer hyrwyddo a chydnabod y gymuned Gymreig arlein.

dotCYM a’n Partneriaid yn Brwsel

Bydd dotCYM Cyf a’n partneriaid Ewropeaidd yn ECLID (cynrychiolwyr o Galisia, Llydaw, Gwlad y Basg ac eraill) yn cyfarfod ym mhrifddinas Ewrop, Brwsel ym mis Mehefin. Byddwn yno i drafod gydag uchel swyddogion ar sut gellir symud proses araf a chostus cyflwyno cais am Barth Lefel Uchaf i ICANN yn ei flaen.

Hain yn cefnogi .Cymru?

Cafwyd sylw ddiddorol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain AS yn ystod ymgyrch yr  Etholiad Cyffredinnol. Soniodd fod angen i Gymru ganolbwyntio ar ‘swyddi ynni gwyrdd’ a’r ‘chwyldro dotCymru, dotCom’.

http://news.bbc.co.uk/1/hi/uk_politics/election_2010/wales/8618590.stm

Cylchlythyr Chwefror 2009
2009 – blwyddyn dotCYM?

Ymddiheuriadau’n gyntaf am ein tawelwch diweddar - ond, fel y gwelwch o’r rhifyn yma, rydym wedi bod yn brysur iawn!  Yn bwysicach nag hyn yw bod sawl darn calonogol o newyddion ar gyfer cefnogwyr dotCYM wrth i ni edrych ymlaen at 2009 - blwyddyn dyngedfennol ar gyfer cyflwyno ceisiadau i ICANN. Diolch i chi unwaith eto am eich cefnogaeth a gobeithiwn na fydd hi’n

llawer hirach cyn y gallwch ddechrau paratoi ar gyfer eich gwefannau .cym!

dotCYM i gwrdd â’r Dirprwy Brif Weinidog

Wedi gweithio’n agos gyda swyddogion y Llywodraeth ar ein cynllun busnes, rydym yn awr yn edrych ymlaen at gwrdd â’r Dirprwy Brif Weinidog ym mis Mawrth. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda swyddogion y Llywodraeth er mwyn sicrhau fod unrhyw gwestiynau’n cael eu hateb yn llawn cyn y cyfarfod ac rydym yn hyderus y bydd y cyfarfod yn amlinellu dyfodol y cais yn hollol glir.  Mae llawer o waith wedi ei fuddsoddi er mwyn datblygu’r cynllun busnes yn ôl gofynion y Llywodraeth ac mae dotCYM Cyf. yn gwerthfawrogi holl amser a mewnbwn aelodau’n Bwrdd.

Ymateb dotCYM i ddrafft gynigion ICANN

Mae dotCYM wedi ymateb yn ffurfiol i ddrafft galwad am gynigion ICANN, lle amlinellwyd gofynion ICANN ar gyfer parthau newydd. Nodwyd sawl pwynt allweddol gan dotCYM Cyf. yn gofyn am eglurhad  gan ICANN yn enwedig ym maes deddfu diogelwch data. Gofynnom iddynt hefyd ail-edrych ar eu bwriad o

godi ‘ffi fflat’ un pris i bawb ar bob un parth a symud tuag at system decach wedi ei seilio ar ganran gwerthiant parthau. Derbyniodd ICANN sawl ymateb tebyg dros eu cyfnod ymgynghorol ac o ganlyniad disgwyliwn beth oedi pellach ar gyfer dyddiad cyflwyno ceisiadau. Serch hynny, rydym yn dal i ddisgwyl ymgymryd â’r cais erbyn haf 2009 fan bellaf. Hoffem ddiolch i Peter Black AC, Bethan Jenkins AC a Jill Evans ASE am godi nifer o bwyntiau am ffioedd ICANN wrth ymateb i’r ddogfen ddrafft.

Cyngor Dinas Caerdydd yn cefnogi dotCYM

Hoffem ddiolch i Gyngor Dinas Caerdydd a’r Cyngh. a Dirprwy Arweinydd Neil McEvoy yn enwedig, am eu cefnogaeth i gais dotCYM (gweler www.cardiff-info.com/content.asp?id=7952&d1=0 ac adroddiad y Western Mail www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2009/01/24/council-backs-cym-domain-campaign-91466-22766480/).  Mae’r gefnogaeth gan y brifddinas yn profi fod cryfder y cais dros gael

parth .cym yn cael ei chydnabod ar draws Cymru. Dywedodd Siôn Jobbins, Prif Weithredwr dotCYM Cyf., fod y parth yn ‘ffordd i fusnesau lleol yng Nghaerdydd ddangos eu bod yn rhan o wead bywyd y ddinas. Mae hynny’n dewis da i fusnesau, cymdeithas a statws Caerdydd fel prifddinas Cymru.’

Aelodaeth

Hoffai dotCYM Cyf. ddiolch i bawb sydd wedi cymryd y cyfle i ddod yn aelodau o dotCYM. Oherwydd galwadau ymateb i ddogfen ddrafft ICANN a datblygu’r cynllun busnes, nid ydym wedi gallu talu gymaint o sylw ag yr hoffem i’r rhan yma o’n gwaith. Serch hynny, byddwch yn clywed gennym yn y dyfodol agos. Rydym yn awr yn derbyn cyngor ynghlŷn â’r ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau fod ein haelodau’n chwarae rhan ymarferol wrth ymwneud â dotCYM ac ni fyddwn yn derbyn aelodau newydd am y tro.

Gordon Brown: ‘Technoleg ddigidol mor bwysig â ffyrdd’

Mae Llywodraeth San Steffan wedi datgan bydd gan bob cartref mynediad i fand-eang 2Mbps erbyn 2012, er mwyn creu economi cystadleuol a charbon isel.  Dywedodd Gordon Brown mewn cyhoeddiad ym mis Ionawr, ‘bydd pob rhan o’n bywyd… yn ddibynnol ar y gwasanaethau gall rhwydwaith ddigidol ei

chyflenwi’ a bod technoleg ddigidol mor bwysig heddiw â ‘ffyrdd, pontydd a threnau yn yr ugeinfed ganrif.’ Mae Llywodraeth San Steffan, fel un y Cynulliad, yn deall mae digidol yw’r dyfodol a dyna pam eu bod yn gefnogol i gais dotCYM. Mae’r cais dros .cym felly yn rhan o fudiad ehangach i brif-ffrydio economi a chymdeithas Cymru. Bydd bod heb barth Gymreig yn yr ugeinfed ganrif fel bod heb ffyrdd yn y ganrif ddiwethaf.

Diolch gwresog i Tom Brooks

Wedi bron i ddwy flynedd a roi peth wmbreth o amser ac egni i’r cais am .cym mae Tom Brooks wedi penderfynu sefyll i lawr fel aelod o Fwrdd dotCYM Cyf.  Byddawr yw canolbwyntio ar ei gyfrifoldebau ar Bwyllgor Seneddol Trawsbleidiol TG San Steffan a’r Grŵp Holl-bleidiol Cyfathrebu, lle mae’n bwriadu parhau gyda’i waith lobio ar gyfer cefnogaeth ymarferol i dotCYM. Hoffai dotCYM Cyf. ddiolch o waelod calon i Tom am ei gefnogaeth i’r cais ac am ei waith caled a manwl wrth gyflwyno cais i ICANN.

Cyngor Dinas Caerdydd yn cefnogi dotCYM
Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Caerdydd wedi cefnogi cais i Gymru ennill ei pharth lefel uchaf (Top Level Domain) - .CYM. Bydd y parth newydd yn rhoi’r dewis i bobl Caerdydd ddewis .CYM neu’r enwau llai penodol fel .com, .co.uk neu .org.

Wrth ymateb i bwysau byd-eang fe penderfynodd corff llywodraethu’r rhyngrwyd, ICANN, ym Mehefin 2008 i dderbyn parthau newydd i’r system. Y parth lefel uchaf yw’r rhan olaf o gyfeiriad rhyngrwyd ac maent wedi eu rhannu’n ddau gategori; TLD ‘generig’ (sy’n cynnwys .com) a pharthau gwlad sy’n dynodi gwledydd neu diriogaethau arbennig eraill, megis .uk.

Fel prifddinas Cymru, mae Caerdydd wedi dewis cefnogi’r cais i sefydlu TLD i’r gymuned Gymreig gan y bydd yn fodd i roi ffocws i Gaerdydd a Chymru’n rhyngwladol. Ar hyn o’r bryd, mae’r pedair gwlad sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig wedi eu cynrychioli gan un parth, .uk. Bellach mae ceisiadau o Gymru a’r Alban am enwau parth eu hunain.

Cadarnhaodd Google ac Yahoo y bydd parthau lleol megis .cym yn sgorio’n uwch wrth i rywun chwilio am wefannau’n ymwneud â Chymru. Disgwylir y bydd busnesau technoleg gwybodaeth a meddalwedd yn derbyn hwb wrth iddynt gyflwyno gwasanaethau wedi eu hadeiladu o gwmpas parth Cymreig.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerdydd ac Aelod Gweithredol dros Ddatblygu Economaidd, y Cynghorydd Neil McEvoy, “Mae’r cais dros barth lefel uchaf unigryw i Gymru wedi ei seilio ar nifer o fanteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Ar gyfer busnesau bydd y parth .cym yn cynnig cyfle i gofrestri enwau gwefannau fydd yn fyr, esboniadol a chofiadwy.

“Bydd Cymru hefyd yn elwa o frandio rhyngwladol byd-eang cryfach fel cyrchfan twristiaeth neu farchnad busnes gydag enwau megis www.hotels.cym neu www.visit.cym. Gallwn adeiladu brand clir o gwmpas dotCYM bydd yn ychwanegiad positif ac effeithiol ar gyfer hyrwyddo cynnyrch, diwylliant a champau chwaraeon Cymru.  Bydd .CYM hefyd yn rhoi’r genedl hynafol yma ar y map rhyngwladol.”

Dywedodd Prif Weithredwr cais dotCYM Cyf, Siôn Jobbins “Bydd parth .cym yn rhoi dewis i bobl Caerdydd, Cymru a’r gymuned Gymreig ryngwladol, wrth frandio eu cynnyrch, gwasanaethau, diddordebau, clybiau chwaraeon a chymunedau gyda gwefannau unigryw a Chymreig.

“Bydd yn ffordd i fusnesau lleol Caerdydd ddangos bod eu gwreiddiau yn y ddinas. Mae hon yn benderfyniad da iawn i fusnesau, cymdeithas a statws Caerdydd fel prifddinas Cymru.”

Er mwyn cryfhau’r cais ar gyfer ICANN, mae dotCYM yn denu aelodau a chefnogwyr i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer parth .cym. Mae bellach dros 400 o sefydliadau a chwmnïau, gan gynnwys Llywodraeth y Cynulliad, yn gefnogol i’r cais a miloedd o unigolion.

Peter Black yn gofyn cwestiwn am dotCYM
Mae un o gefnogwyr cynharaf cais dotCYM, Peter Black AC, wedi gosod cwestiwn yn y Senedd i’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones AC.

Mae diddordeb a chefnogaeth cyson Peter Black i’r cais yn arwydd bychan ond pwysig arall o’r gefnogaeth draws-bleidiol sydd tuag at parth .cym fel ffordd o uno a brandio cymunedau Cymreig yma ac ar draws y byd.

http://peterblack.blogspot.com/2008/11/dot-cym-campaign-continued.html