Cylchlythyr Medi 2008
Aelodau Newydd ar y Bwrdd
Mewn cyfarfod ar ddydd Sul y 3ydd o Awst, cafwyd Tom Brooks a Sharanne Basham-Pyke eu derbyn ar fwrdd dotCYM cyf.
Mae Tom wedi gweithio ym maes Technoleg Gwybodaeth am dros ddeugain mlynedd, ac fel ymgynghorydd rheoli wedi arwain prosiectau mawr yn y sector gyhoeddus a’r sector breifat. Mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol ar gangen Ewrop yn un o gwmnïau technolegol mwyaf yr Unol Daleithiau, ac yn Gyfarwyddwr ar ddau gwmni yn y Deyrnas Gyfunol. Mae hefyd yn aelod lleyg trwy wahoddiad o Bwyllgor TG Seneddol Trawsbleidiol San Steffan ac yn gyfrannwr lleyg i’r Grwp Cyfathrebu Trawsbleidiol.
Mae Sharanne Basham-Pyke yn Gyfarwyddwr Cleientiaid gyda BT. Yn ystod ei gyrfa yn y diwydiant technoleg gwybodaeth a chyfathrebu mae hi wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu a dylanwadu ar wasanaethau ar gyfer Cymru. Mae hi hefyd yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Rhyngwladol Ysgol Fusnes Caerdydd, yn aelod bwrdd o Gymdeithas Tai, ac yn aelod o RhAG Casnewydd.
Bydd y ddau yn gaffaeliaid mawr i ymgais dotCYM.
e-Drosedd a .cym
Bydd y parth .cym yn gymorth yn y frwydr yn erbyn e-Drosedd – dyna’r neges rydym yn clywed gan sawl arbenigwr yn y maes.
Mae oddeutu 2 biliwn o bobl yn defnyddio’r Rhyngrwyd heddiw. Erbyn 2012, disgwylir y bydd oddeutu 7 biliwn. Mae’r cynnydd ar ran defnyddwyr (ac felly gwefannau hefyd) yn un rheswm da (ymysg llawer) am barthau newydd – ac mae hynny’n rhan o benderfyniad ICANN i agor y drysau ar gyfer parthau newydd. O fewn y cyd-destun yma, mae’n gwneud synnwyr i gael parth ar gyfer y gymuned Gymreig. Ond mae rheswm da arall yn dod yn amlwg.
Oherwydd bydd y parth .cym yn barth noddedig (yn wahanol i .com), bydd rheolaeth dynnach ar ran pwy gall ei defnyddio. Golyga hyn gall bobl teimlo’n fwy diogel gyda .cym. Os bydd .cym ar ddiwedd cyfeiriad, cewch fod yn fwy sicr nad yw’n e-bost sbam neu’n gynnig ffug. Rheswm da arall dros .cym!
Lansiad Eisteddfod gyda’r Dirprwy Brif Weinidog
Datganodd Ieuan Wyn Jones AC, Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth a Dirprwy Brif Weinidog Cymru, gefnogaeth wleidyddol ac ariannol y Llywodraeth i ymgais dotCYM yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Roedd croeso cynnes i’r datganiad, a derbyniodd sylw eang yn y cyfryngau. Mae cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i ymgais dotCYM yn debyg i gefnogaeth mewn gwledydd fel Catalwnia a Galisia ar gyfer eu ceisiadau hwythau.
dotCYM, UNESCO a WAG ym Mangor
Cyflwynodd Tom Brooks papur ar ran ymgais dotCYM fel rhan o gynhadledd ryngwladol ar ‘Gyd-ddealltwriaeth Fyd-eang mewn Cyd-destunau Amlieithog, Amlfodd ac Amlgyfrwng’ ym Mangor ar Awst 22ain. Noddwyd y gynhadledd gan Lywodraeth y Cynulliad fel rhan o’i gyfraniad i ‘2008: Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd y Byd’. Arweiniwyd y gynhadledd gan UNESCO ac agorwyd gan Alun Ffred Jones ar ran Llywodraeth y Cynulliad.
Teitl papur Tom roedd ‘The dotCYM Experience - The Challenges of Establishing a Minority Language on the Internet’. Rhoddwyd croeso cynnes i’r papur, a dangoswyd llawer o ddiddordeb yn y pwnc. Cynhelir y gynhadledd yn Amsterdam blwyddyn nesaf.
Swyddog dotCYM
Mae cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad wedi galluogi dotCYM cyf. i benodi Aran Jones i weithio ar y cais am oddeutu tri mis.
Mae Aran yn adnabyddus o fewn y We Gymraeg am gychwyn y peiriant casglu blogiau www.blogiadur.com a’r fersiwn Saesneg www.blogcymru.com. Mae hefyd yn rhan o dîm www.pishyn.com, yn helpu rhedeg www.dimegoch.com (ymgyrch i gefnogi busnesau Cymraeg) ac yn hostio’r wefan drafod llwyddiannus www.maes-e.com. Bydd sgiliau trefnu Aran a’i frwdfrydedd dros y We Gymraeg yn gymorth mawr wrth iddo fynd ati ar ran dotCYM cyf.





