Meddwl yn fyd-eang – gweithredu’n lleol
dotCYM AR AGOR I AELODAU
Ar adeg pan fod sefydliadau rhyngwladol a banciau buddsoddi mewn trafferth ddifrifol, mae cais am enw parth Cymreig rhyngwladol (.cym) yn dangos yr hyder i fynd yn erbyn y llif trwy agor ei drysau i bobl ar draws Cymru a thu hwnt. Mae sylfaenwyr y cais yn credu bod pobl yn fodlon gwneud buddsoddiad moesol yn nyfodol Cymru trwy ddod yn aelodau dotCYM, sydd yn ceisio ennill y parth .cym i’r gymuned Gymraeg a Chymreig.
Yn cychwyn heddiw, mae cyfle unigryw ar gael i bobl Cymru newid wyneb y We Fyd-Eang trwy helpu ennill parth .cym byddai’n rhoi Cymru ar y blaen yn y symudiad mawr nesaf ar-lein. Mae ICANN, y corff sy’n gyfrifol am barthau’r rhyngrwyd, yn paratoi ar gyfer derbyn ceisiadau am enwau newydd yn gynnar yn 2009 - a diolch i ymgyrch dotCYM, mae cyfle gwirioneddol gan Gymru sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda chwaraewyr mawr fel .sco (Yr Alban) .london, .berlin, .paris a .nyc (Efrog Newydd).
‘Beth sydd angen arnom ni nawr ydy aelodau,’ medd Prif Gyfarwyddwr cais nid-er-elw dotCYM Cyf, Siôn Jobbins. ‘Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cytuno i gefnogi ein cais, rydym wedi lobïo’n galed gydag ICANN, rydym yn gweithio’n galed iawn ar y manylion cyfreithiol, ond mae ICANN wedi datgan y byddant yn edrych yn ffafriol ar geisiau sydd yn medru dangos cefnogaeth gymunedol, a byddant yn asesu hynny yn seiliedig ar faint o aelodau sydd gennym. Mae hyn yn gais ar gyfer y gymuned Gymreig gyfan, ac rydym yn awyddus iawn i gymaint â bod modd o bobl helpu chwifio’r faner dros Gymru. Rydym yn hyderus y bydd .cym yn medru dangos ein bod yn barth y bobl.
Golyga hyn fod gan bobl Cymru lais gwirioneddol yn y penderfyniad i greu .cym ai beidio, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â’r rhan helaethaf o benderfyniadau rhyngwladol. Mae hyd yn oed cwmnïau mawrion fel Nominet (sydd yn gyfrifol am .uk) ond gydag oddeutu 3000 o aelodau, felly bydd pawb sy’n dod yn aelod dotCYM yn gwneud gwahaniaeth pwysig iawn - bydd pob aelod yn ei gwneud hi’n debycach y bydd Cymru’n ennill. Gan fod cais dotCYM Cyf yn un nid-er-elw, bydd elw o’r parth yn cael ei fuddsoddi yn y gymuned rhyngrwyd Gymreig a chryfhau ei strwythur nid mewn bonws mawr tew i’r cyfarwyddwr! Mae cais dotCYM felly wedi ei seilio ar egwyddorion moesol yn ogystal â masnachol clir - yn wahanol i nifer o fusnesau mawr elw-ar-bob-cost y byd sydd nawr mewn perygl.
‘Mae’n gyfle arbennig i bobl Cymru ddangos bod nhw eisiau i Gymru fod yn llwyddiannus arlein,’ medd Maredudd ap Gwyndaf, un o sylfaenwyr dotCYM cyf. ‘Bydd .cym yn helpu cadw mwy o wario arlein yng Nghymru, bydd yn helpu cwmnïau Cymreig godi yn y canlyniadau chwilio ar gyfer unrhyw beth sydd yn cynnwys enwau fel Cymru neu Wales, a bydd yn gwneud Cymru’n lle mwy diogel i fod arlein trwy gynyddu ein gallu i blismona eDrosedd - os bydd pobl yn dangos eu bod yn awyddus i gael .cym trwy ddod yn aelodau, bydd gennym gyfle euraidd i ennill.’
Mae modd i’r rhai sydd eisiau ennill hyn dros Gymru ddod yn aelodau ar www.dotcym.org am £2 y mis neu £24 y flwyddyn (£100 y flwyddyn ar gyfer sefydliadau).





