Cyngor Dinas Caerdydd yn cefnogi dotCYM
Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Caerdydd wedi cefnogi cais i Gymru ennill ei pharth lefel uchaf (Top Level Domain) - .CYM. Bydd y parth newydd yn rhoi’r dewis i bobl Caerdydd ddewis .CYM neu’r enwau llai penodol fel .com, .co.uk neu .org.
Wrth ymateb i bwysau byd-eang fe penderfynodd corff llywodraethu’r rhyngrwyd, ICANN, ym Mehefin 2008 i dderbyn parthau newydd i’r system. Y parth lefel uchaf yw’r rhan olaf o gyfeiriad rhyngrwyd ac maent wedi eu rhannu’n ddau gategori; TLD ‘generig’ (sy’n cynnwys .com) a pharthau gwlad sy’n dynodi gwledydd neu diriogaethau arbennig eraill, megis .uk.
Fel prifddinas Cymru, mae Caerdydd wedi dewis cefnogi’r cais i sefydlu TLD i’r gymuned Gymreig gan y bydd yn fodd i roi ffocws i Gaerdydd a Chymru’n rhyngwladol. Ar hyn o’r bryd, mae’r pedair gwlad sy’n rhan o’r Deyrnas Unedig wedi eu cynrychioli gan un parth, .uk. Bellach mae ceisiadau o Gymru a’r Alban am enwau parth eu hunain.
Cadarnhaodd Google ac Yahoo y bydd parthau lleol megis .cym yn sgorio’n uwch wrth i rywun chwilio am wefannau’n ymwneud â Chymru. Disgwylir y bydd busnesau technoleg gwybodaeth a meddalwedd yn derbyn hwb wrth iddynt gyflwyno gwasanaethau wedi eu hadeiladu o gwmpas parth Cymreig.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerdydd ac Aelod Gweithredol dros Ddatblygu Economaidd, y Cynghorydd Neil McEvoy, “Mae’r cais dros barth lefel uchaf unigryw i Gymru wedi ei seilio ar nifer o fanteision economaidd, cymdeithasol a diwylliannol. Ar gyfer busnesau bydd y parth .cym yn cynnig cyfle i gofrestri enwau gwefannau fydd yn fyr, esboniadol a chofiadwy.
“Bydd Cymru hefyd yn elwa o frandio rhyngwladol byd-eang cryfach fel cyrchfan twristiaeth neu farchnad busnes gydag enwau megis www.hotels.cym neu www.visit.cym. Gallwn adeiladu brand clir o gwmpas dotCYM bydd yn ychwanegiad positif ac effeithiol ar gyfer hyrwyddo cynnyrch, diwylliant a champau chwaraeon Cymru. Bydd .CYM hefyd yn rhoi’r genedl hynafol yma ar y map rhyngwladol.”
Dywedodd Prif Weithredwr cais dotCYM Cyf, Siôn Jobbins “Bydd parth .cym yn rhoi dewis i bobl Caerdydd, Cymru a’r gymuned Gymreig ryngwladol, wrth frandio eu cynnyrch, gwasanaethau, diddordebau, clybiau chwaraeon a chymunedau gyda gwefannau unigryw a Chymreig.
“Bydd yn ffordd i fusnesau lleol Caerdydd ddangos bod eu gwreiddiau yn y ddinas. Mae hon yn benderfyniad da iawn i fusnesau, cymdeithas a statws Caerdydd fel prifddinas Cymru.”
Er mwyn cryfhau’r cais ar gyfer ICANN, mae dotCYM yn denu aelodau a chefnogwyr i ddangos eu cefnogaeth ar gyfer parth .cym. Mae bellach dros 400 o sefydliadau a chwmnïau, gan gynnwys Llywodraeth y Cynulliad, yn gefnogol i’r cais a miloedd o unigolion.





