Ymgyrchu dros barth rhyngrwyd .cym
dotCYM

Cylchlythyr Chwefror 2009

2009 – blwyddyn dotCYM?

Ymddiheuriadau’n gyntaf am ein tawelwch diweddar - ond, fel y gwelwch o’r rhifyn yma, rydym wedi bod yn brysur iawn! Yn bwysicach nag hyn yw bod sawl darn calonogol o newyddion ar gyfer cefnogwyr dotCYM wrth i ni edrych ymlaen at 2009 - blwyddyn dyngedfennol ar gyfer cyflwyno ceisiadau i ICANN. Diolch i chi unwaith eto am eich cefnogaeth a gobeithiwn na fydd hi’n
llawer hirach cyn y gallwch ddechrau paratoi ar gyfer eich gwefannau .cym!

dotCYM i gwrdd â’r Dirprwy Brif Weinidog

Wedi gweithio’n agos gyda swyddogion y Llywodraeth ar ein cynllun busnes, rydym yn awr yn edrych ymlaen at gwrdd â’r Dirprwy Brif Weinidog ym mis Mawrth. Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda swyddogion y Llywodraeth er mwyn sicrhau fod unrhyw gwestiynau’n cael eu hateb yn llawn cyn y cyfarfod ac rydym yn hyderus y bydd y cyfarfod yn amlinellu dyfodol y cais yn hollol glir. Mae llawer o waith wedi ei fuddsoddi er mwyn datblygu’r cynllun busnes yn ôl gofynion y Llywodraeth ac mae dotCYM Cyf. yn gwerthfawrogi holl amser a mewnbwn aelodau’n Bwrdd.

Ymateb dotCYM i ddrafft gynigion ICANN

Mae dotCYM wedi ymateb yn ffurfiol i ddrafft galwad am gynigion ICANN, lle amlinellwyd gofynion ICANN ar gyfer parthau newydd. Nodwyd sawl pwynt allweddol gan dotCYM Cyf. yn gofyn am eglurhad gan ICANN yn enwedig ym maes deddfu diogelwch data. Gofynnom iddynt hefyd ail-edrych ar eu bwriad o
godi ‘ffi fflat’ un pris i bawb ar bob un parth a symud tuag at system decach wedi ei seilio ar ganran gwerthiant parthau. Derbyniodd ICANN sawl ymateb tebyg dros eu cyfnod ymgynghorol ac o ganlyniad disgwyliwn beth oedi pellach ar gyfer dyddiad cyflwyno ceisiadau. Serch hynny, rydym yn dal i ddisgwyl ymgymryd â’r cais erbyn haf 2009 fan bellaf. Hoffem ddiolch i Peter Black AC, Bethan Jenkins AC a Jill Evans ASE am godi nifer o bwyntiau am ffioedd ICANN wrth ymateb i’r ddogfen ddrafft.

Cyngor Dinas Caerdydd yn cefnogi dotCYM

Hoffem ddiolch i Gyngor Dinas Caerdydd a’r Cyngh. a Dirprwy Arweinydd Neil McEvoy yn enwedig, am eu cefnogaeth i gais dotCYM (gweler www.cardiff-info.com/content.asp?id=7952&d1=0 ac adroddiad y Western Mail www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2009/01/24/council-backs-cym-domain-campaign-91466-22766480/). Mae’r gefnogaeth gan y brifddinas yn profi fod cryfder y cais dros gael
parth .cym yn cael ei chydnabod ar draws Cymru. Dywedodd Siôn Jobbins, Prif Weithredwr dotCYM Cyf., fod y parth yn ‘ffordd i fusnesau lleol yng Nghaerdydd ddangos eu bod yn rhan o wead bywyd y ddinas. Mae hynny’n dewis da i fusnesau, cymdeithas a statws Caerdydd fel prifddinas Cymru.’

Aelodaeth

Hoffai dotCYM Cyf. ddiolch i bawb sydd wedi cymryd y cyfle i ddod yn aelodau o dotCYM. Oherwydd galwadau ymateb i ddogfen ddrafft ICANN a datblygu’r cynllun busnes, nid ydym wedi gallu talu gymaint o sylw ag yr hoffem i’r rhan yma o’n gwaith. Serch hynny, byddwch yn clywed gennym yn y dyfodol agos. Rydym yn awr yn derbyn cyngor ynghlŷn â’r ffordd fwyaf effeithiol i sicrhau fod ein haelodau’n chwarae rhan ymarferol wrth ymwneud â dotCYM ac ni fyddwn yn derbyn aelodau newydd am y tro.

Gordon Brown: ‘Technoleg ddigidol mor bwysig â ffyrdd’

Mae Llywodraeth San Steffan wedi datgan bydd gan bob cartref mynediad i fand-eang 2Mbps erbyn 2012, er mwyn creu economi cystadleuol a charbon isel. Dywedodd Gordon Brown mewn cyhoeddiad ym mis Ionawr, ‘bydd pob rhan o’n bywyd… yn ddibynnol ar y gwasanaethau gall rhwydwaith ddigidol ei
chyflenwi’ a bod technoleg ddigidol mor bwysig heddiw â ‘ffyrdd, pontydd a threnau yn yr ugeinfed ganrif.’ Mae Llywodraeth San Steffan, fel un y Cynulliad, yn deall mae digidol yw’r dyfodol a dyna pam eu bod yn gefnogol i gais dotCYM. Mae’r cais dros .cym felly yn rhan o fudiad ehangach i brif-ffrydio economi a chymdeithas Cymru. Bydd bod heb barth Gymreig yn yr ugeinfed ganrif fel bod heb ffyrdd yn y ganrif ddiwethaf.

Diolch gwresog i Tom Brooks

Wedi bron i ddwy flynedd a roi peth wmbreth o amser ac egni i’r cais am .cym mae Tom Brooks wedi penderfynu sefyll i lawr fel aelod o Fwrdd dotCYM Cyf. Byddawr yw canolbwyntio ar ei gyfrifoldebau ar Bwyllgor Seneddol Trawsbleidiol TG San Steffan a’r Grŵp Holl-bleidiol Cyfathrebu, lle mae’n bwriadu parhau gyda’i waith lobio ar gyfer cefnogaeth ymarferol i dotCYM. Hoffai dotCYM Cyf. ddiolch o waelod calon i Tom am ei gefnogaeth i’r cais ac am ei waith caled a manwl wrth gyflwyno cais i ICANN.