Rheolau’n newid: ‘cym’ ddim yn bosib
Mae’r rheolau ynglŷn ag enwau derbyniol ar gyfer parthau lefel uchaf newydd wedi newid.
Mae ‘CYM’ wedi ei chadw ar gyfer Ynysoedd Cayman, er bod ganddynt eisoes .ky. Dydy’r llythrennau ‘CYM’ felly ddim ar gael ar gyfer y gymuned Gymraeg a Chymreig i’w defnyddio ar y rhyngrwyd.
Byddwn yn dewis parth lefel uchaf newydd i gynrychioli’n cymuned. Mae angen un sy’n cyd-fynd â chriteria’r cais a gyflwynir i ICANN, y corff sy’n rheoli enwau ar y rhyngrwyd.
Rydym angen parth lefel uchaf fydd:
a) yn cael ei hadnabod fel un sy’n cynrychioli’r gymuned Gymreig
b) yn adlewyrchu a hyrwyddo gwerthoedd y cais ar gyfer parth lefel uchaf i’r gymuned ddiwylliannol a ieithyddol
c) ar gael i’w ddefnyddio gan y gymuned Gymraeg a Chymreig yn fyd-eang: unigolion, clybiau a chymdeithasau, busnesau a chyrff llywodraethol
Hoffem glywed eich barn.
Beth yw’ch barn chi ar .cymru, .cwl (Cymru Wales) a .wales?
Pa barth lefel uchaf sydd well gennych chi ac a oes unrhyw rai yr ydych yn eu herbyn?
A ydych yn siarad fel unigolyn neu ar ran gorff arall?
Gallwch gysylltu â ni ar dotcym@dotcym.org




