Ymgyrchu dros barth rhyngrwyd .cym
dotCYM

Cymru Ar-lein - Swyddogaeth y Llwyodraeth

Am dros chwe blynedd mae dotCYM wedi bod yn gweithio i sicrhau na fydd Cymru a’r gymuned Gymraeg byd-eang yn colli’r cyfle i gael ei pharth lefel-uchaf (PLU) eu hunain. Byddai hyn yn galluogi gwefannau i gael cyfeiriad .cymru, fel www.enghraifft.cymru yn lle www.enghraifft.com neu www.enghraifft.co.uk. Mae wedi cydweithio gydag unigolion a chyrff yng Nghymru a gweddill y byd sydd yn llawn cynnwrf wrth ystyried y posibilrwydd o barthau lefel-uchaf ar gyfer eu cymunedau. Yr unig fan y maent wedi wynebu gwrthwynebiad a diffyg diddordeb yw gyda Llywodraeth Cymru ei hun. Nid yw’r gweision sifil wedi dangos iot o ddiddordeb ac maent wedi cynghori’r Gweinidogion nad yw hyn yn fater o bwys o gwbl. Ymgeisiodd dotCYM gydweithio’n agos bob amser gyda swyddogion y Llywodraeth ond roedd yn dasg amhosibl. Mae’r Llywodraeth nawr wedi datgan mai ei hunig ddiddordeb yw darparu’r llythyr o gefnogaeth sydd yn angenrheidiol ar gyfer y cais. Mae ceisiadau eraill fel .scot, .gal (Galisia), .eus (Gwlad y Basg) a .bzh (Llydaw) i gyd yn gweithio gyda’u llywodraethau oherwydd maent yn deall pwysigrwydd bod yn gyfrannol mewn rhedeg eu PLU. Mae’r Greater London Authority yn cymryd cyfrifoldeb dros y cais .london. Roedd dotCYM yn y cyfarfod yn Neuadd y Ddinas ym Mharis pan gyhoeddodd y maer fod €1m yn mynd i gael ei fuddsoddi yn y PLU ar gyfer y ddinas, .paris.

Mae dotCYM a’i filoedd o gefnogwyr – cyrff preifat a chyhoeddus ynghyd ag unigolion – yn credu fod hyn yn fenter gyffrous, menter fydd yn ychwanegiad pwysig i is-strwythur Cymru. Bydd yn werthfawr i fusnes, yn hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant ac yn cynorthwyo’r diwydiant twristiaeth i sefyll allan o weddill y DU.

Mae wedi cymryd blynyddoedd i ICANN, corff llywodraethol enwau ar y we, i ddechrau’r broses am PLUau newydd. Yn ystod yr holl flynyddoedd o drafod, dadlau ac anghydfod rhwng yr amryfal grwpiau gwahanol fel corfforaethau mawr, perchnogion nodau masnach, llywodraethau a gwerthwyr parthau, roedd ond un grŵp o barthau lefel-uchaf oedd wedi ennill cefnogaeth y mwyafrif – sef y PLUau diwylliannol a ieithyddol. Mae cefnogaeth byd eang iddynt gan eu bod yn dwyn mwy o amrywiaeth i’r we.
Mae llawer o ddadlau dros les .sport, .movie, .bank, .health a channoedd o PLUau eraill ond ar ôl gweithio am flynyddoedd ar PLU ar gyfer y gymuned Gymreig, gan weithio’n agos gyda’r Albanwyr, y Llydäwyr, Galisiaid, Basgiaid a’r Catalaniaid, lobïo ICANN a’r UE, trafod gyda Llywodraeth Prydain, mynd i gynadleddau ICANN yn yr Aifft, Puerto Rico, Portiwgal, Ffrainc a Gwlad Belg, roedd yr unig wrthwynebiad i PLUau diwylliannol yn dod o du Llywodraeth Cymru a’i swyddogion.
Ond pam ddylai’r llywodraeth ymddiddori yn ei PhLU – brand y wlad a’r gymuned ar-lein – ac mewn trefn rheoli’r we yn gyffredinol? Mae Llywodraeth Prydain yn cymryd diddordeb yn y materion hyn ac yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad y we. Er enghraifft,

  • Mae cynrychiolwyr y DU yn gweithio gyda phob corff mawr sy’n llunio’r we gan gynnwys bod yn aelod pwysig o’r Pwyllgor Llywodraethol Ymgynghorol yn ICANN.
  • Maent yn gweithio’n agos gyda Nominet, sy’n berchen ar ac yn rhedeg y PLU .uk, gan werthfawrogi pwysigrwydd enw’r wlad ar y we.
  • Oherwydd problemau ar Fwrdd Nominet yn 2008/2009 ychwanegodd y Llywodraeth gymal yn y Ddeddf yr Economi Ddigidol i alluogi’r Llywodraeth Brydeinig i gymryd rheolaeth o unrhyw BLU o’r DU os nad oedd yn cael ei redeg yn foddhaol. Ni fyddant wedi gwneud hyn os nad oeddynt yn credu for PLU’r wlad yn bwysig.
  • Mae nifer o ddigwyddiadau yn San Steffan bob blwyddyn i drafod pob agwedd o’r we gan gynnwys diogelwch, trefn rheoli, PLUau newydd a’r PLU .uk.

Gellir dadlau nad oes angen i Lywodraeth Cymru boeni am y materion hyn gan fod Llywodraeth y DU yn weithgar ac yn cynrychioli Cymru hefyd. Fel mae’n digwydd dyw parthau lefel-uchaf ddim yn fater sydd wedi ei ddatganoli. Mae’r cyfrifoldeb am benderfynu pa gwmni sy’n rhoi cais i mewn am BLU i Gymru yn gorwedd gydag Ed Vaizey, Gweinidog Diwylliant, Cyfathrebu a’r Diwydiannau Creadigol, yn Llundain.
Dyw dotCYM ddim yn meddwl fod hyn yn esgus dros ddiffyg uchelgais a dychymyg gan Lywodraeth Cymru.

Pam nad yw mater PLU Cymru wedi ei ddatganoli? Ydy Cymru wedi gofyn i’r pwerau o fewn Deddf yr Economi Ddigidol gael eu datganoli? Pam nad yw Cymru wedi sicrhau ei fod ar y rhestr ISO3166-1 o wledydd er mwyn gallu cael PLU gwlad dwy lythyren? Mae un gan Ynysoedd Aland (.ax), gyda phoblogaeth o 30.000 ac Ynysoedd y Ffaro (.fo) gyda phoblogaeth o 50,000; pam nad oes un gan Gymru gyda 3 miliwn o bobl?

Mae dotCYM yn gwahodd Edwina Hart, Gweinidog Busnes, Menter a Thechnoleg, i newid polisi’r Llywodraeth a dechrau gweithio gyda yn hytrach nag yn erbyn dotCYM er mwyn sicrhau PLU i’r Cymry. Drwy weithio gyda dotCYM, gall Cymru ddefnyddio ac ychwanegu at yr arbenigedd helaeth o fewn busnesau, prifysgolion a llywodraeth yng Nghymru i greu ecosystem fenter uchel-dechnoleg fydd yn gwasanaethu Cymru ac yn cynnig gwasanaethau arbenigol i’r farchnad ryngwladol.
Yr opsiwn arall yw rhoi’r gwaith i gyd i Nominet yn Rhydychen fel y mae’r Llywodraeth yn ystyried gwneud. Mae Nominet wedi creu Pwyllgor Ymgynghorol yng Nghymru i roi wyneb Cymreig iddynt eu hunain. Efallai y gwnânt ddechrau cwmni yng Nghymru fel cuddwisg ychwanegol i drio twyllo’r Cymry fod eu PLU yn berchen i ac yn cael ei redeg gan gwmni brodorol o Gymru. Ai dyma’r neges mae Cymru eisiau rhoi i’w phobl ei hunan, pobl sy’n fodlon defnyddio eu gallu a’u hangerdd i weithio’n galed am flynyddoedd er mwyn Cymru – peidiwch drafferthu, gallwn ddod o hyd i gwmni cyfoethog o Loegr i wneud y gwaith i ni? Ydyn ni’n mynd i ddechrau cystadlu neu ydyn ni’n mynd i’n dibrisio’n hunain unwaith eto? Ydyn ni’n mynd i adael i gwmni tramor sydd â monopoli yn y farchnad i brynu ei ffordd i mewn i Gymru a lladd y gystadleuaeth Gymreig neu ydyn ni’n mynd i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod Cymru yn cadw perchnogaeth a rheolaeth o’i pharth lefel-uchaf ei hunan?

Mae dotCYM yn credu fod yn rhaid i Gymru gystadlu. Mae rhaid i’r Llywodraeth i gymryd diddordeb a chwarae ei rhan yn natblygiad PLU Cymru a’r gymuned Gymraeg fyd-eang. Dyw datgan diffyg diddordeb a gwrthod gweithio gyda menter gymdeithasol Gymreig sydd wedi bod yn gweithio am chwe blynedd ar y mater, gan wahodd corfforaeth fawr o du allan i Gymru sydd â monopoli o’r farchnad i gystadlu yn ei herbyn ddim yn dderbyniol. Mae’r Alban yn cefnogi Dot Scot Registry, fydd yn ceisio am BLU .scot, oherwydd maent eisiau cefnogi menter leol a chadw rheolaeth o’i PhLU. Ni fyddent wedi dychmygu mynd at Nominet fel y gwnaeth swyddogion Llywodraeth Cymru ar ôl yr etholiad.

Mae’n rhaid rhoi’r cyfrifoldeb i swyddogion y Llywodraeth sydd a’r gallu a’r diddordeb i weithio gyda dotCYM a’r nifer o gyrff Cymreig a rhyngwladol maent wrthi’n cydweithio â hwy i sicrhau eu bod yn deall PLUau a threfn rheoli’r we yn llawn.

Tro nesaf y bydd dotCYM yn mynd i gynhadledd ICANN dylai swyddog y Llywodraeth ddod hefyd i gynrychioli a rhoi llais i fuddiannau Cymru.

Pan fyddai rowndiau dilynol o geisiadau am PLUau yn dechrau bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff eraill sy’n ymwneud a PhLU Cymru yn gallu cynnig ei harbenigedd a’u profiad i gynorthwyo diwylliannau a chymunedau lleiafrifol eraill sydd eisiau’r un gwelededd a Chymru ar-lein.
Dyw PLUau ddim yn faterion sydd wedi eu datganoli a than i Gymru allu profi ei haeddfedrwydd yn y materion yma rhaid i Lywodraeth Prydain sicrhau fod y rheolaeth yn aros yn Llundain. Mae’r modd mae Cymru yn trafod y PLU newydd yma yn brawf pwysig o’r aeddfedrwydd hwn. Mae dotCYM yn poeni fod swyddogion Llywodraeth Cymru yn rhoi’r cyngor anghywir i’r Gweinidogion sy’n adlewyrchu’r diffyg hyder, gweledigaeth, diddordeb a gallu.

Bydd dotCYM yn parhau i weithio ar gyfer y gymuned Gymreig fyd-eang yn y gobaith y byddant o’r diwedd yn gallu dechrau cydweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y mater pwysig iawn hwn.
Mae amser yn brin a does ond un cyfle. Unwaith mae Cymru yn rhoi rheolaeth o’i pharth lefel-uchaf i Nominet, ni fydd fyth yn ei adennill.