Pam dotCYM?
Oherwydd bod yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Gymraeg yn gymuned y credwn ni y dylai cael ei chydnabod a’i dyrchafu drwy gael ei Parth Lefel Uchaf noddedig (sponsored Top Level Domain - PLU) ar y Rhyngrwyd. Gyda PLU noddedig .cym byddai’r cyrff, cwmnïau a’r bobl hynny sydd am fynegi eu hunain yn yr iaith Gymraeg neu/ac am hyrwyddo diwylliant Gymraeg yn gallu cofrestri a chael eu hadnabod yn glir.
Ffurfiwyd ymgyrch dotCYM gan grwp o unigolion tebyg eu barn sy’n gweithio ym meysydd masnach, rhaglennu cyfrifiaduron, dylunio, cysylltiadau cyhoeddus, y gyfraith a chyhoeddi a welai’r angen am Barth Lefel Uchaf i’r iaith Gymraeg.
Bydd PLU .cym yn chwarae rôl strategol hollol allweddol yn dilysu iaith a diwylliant Cymraeg mewn oes o globaleiddio cynyddol. Bydd yn hwyluso cyfleoedd i unigolion a grwpiau sydd am fod yn rhan o’r gymuned ac uniaethu a grwpiau eraill ar draws y byd.
Bydd llwyddiant ymgyrch dotCYM yn uno cymunedau Cymraeg eu hiaith ar draws Cymru, y Deyrnas Unedig a gweddill y byd. Mae yno gymunedau Cymraeg hanesyddol yn Ne a Gogledd America ac Awstralia.
Bydd llwyddiant dotCYM yn cadarnhau fod y We Fyd Eang yn wir gyfrwng rhyngwladol ac amlieithog.
Bydd hefyd yn chwarae rhan ganolog fel sbardun ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar y we ac fel iaith fodern. Mae cost gymharol rad y we o’i chymharu â chyfryngau eraill megis print a theledu yn ei wneud yn gyfrwng deniadol iawn ar gyfer cymunedau ieithyddol llai fel y Gymraeg ac yn emancipator i’r iaith.
Mae rhannau mawr o’r meddalwedd open office, megis Open Office, eisoes ar gael yn y Gymraeg. Mae’r system Linux ar gael yn Gymraeg ac mae gwaith ar y gweill i greu fersiwn Gymraeg o’r Mac OS X. Yn dilyn trafodaethau gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg mae Microsoft Windows a Microsoft Office ar gael nawr yn y Gymraeg. Mae Google hefyd yn cynnig gwasanaeth Cymraeg.
Y cam nesaf felly yw PLU I’r iaith Gymraeg. Mae cwmnïau mawrion fel Microsoft a Google eisoes wedi deall y budd o gynnig gwasanaeth yn y Gymraeg ac mewn ieithoedd eraill o ddewis miliynau o siaradwyr ieithoedd nad yw’n perthyn i’r ieithoedd mawrion. Mae felly’n hanfodol bwysig fod cyrff sy’n rhedeg y We yn bachu’r cyfle i gefnogi ieithoedd a chymunedau megis y Gymraeg.
Nid yw Cymru’n wlad annibynnol, ond mae gan y Gymraeg fwy o siaradwyr nag ieithoedd nifer o wledydd Ewropeaidd sydd â pharth gwlad, megis Islandeg (290,000 siaradwyr) a Ffoareg (70,000). Er bod y we yn wreiddiol, ac i raddau helaeth yn dal i fod, yn gyfrwng Saesneg ei hiaith, mae’r we yn camu i gyfnod cynhyrfus o ddemocrateiddio ieithyddol, proses mae’r Gymraeg yn adlewyrchiad ohono.
Yn ôl ymchwil a gynhaliwyd yn 2002 y Gymraeg yw’r 42fed iaith fwyaf ysgfrifenedig ar y we a’r mwyaf ysgrifenedig ar y Wicipedia rhyngwladol, yn uwch felly na nifer o ieithoedd gwladwriaethol megis Macadoneg, Latfieg, Tagalog a Tamil. Mae yna nifer o flogiau Cymraeg, fforymau trafod a gwasanaeth e-bostio Cymraeg.
Mae’r gymuned Gymraeg ei hiaith wedi gweld ei hun erioed fel cymuned lle mae’r gair yn bwysig. Mae datblygiad yr iaith wedi body yn destun ysbrydoliaeth. Rho’r We Fyd Eang gyfle i’r gymuned Gymraeg creu lle a statws i’w hun y mae eisoes yn ei fwynhau i raddau ar y caeau chwarae rhyngwladol ac i raddau cynyddol ym maes gwleidyddiaeth.
Manteision parth lefel-uchaf .cym ar gyfer y gymuned Gymreig. (pdf)
Mae’r Rhyngrwyd yn rhwydwaith cyfathrebu sy’n cysylltu miliynau o sustemau cyfrifiadurol trwy’r byd. Fel y caiff pob car ei adnabod gan ei darian trwydded a’i rif, caiff holl gyfrifiaduron y rhyngrwyd eu hadnabod gan rif/enw penodol. Rhaid i’r rhif/enw hwn gael ei lunio yn dilyn rheoliadau’r rhyngrwyd, neu Internet Protocol (IP).
Pam felly bod ‘na .org, .com, .cat ond dim .cym?
Oherwydd bod yna gorff sy’n rheoli, trefnu a chreu Parthau Lefel Uchaf (PLU, neu Top Level Domains) newydd. Mae .com neu .uk yn Barthau Lefel Uchaf.
Enw’r corff hwn yw’r Internet Corporation for Assigned Names and Numbers (ICANN). Mae’n rheoli Sustem Enwau Parthau (DNS, neu Domain Name System) ac yn dynodi PLUau newydd ac yn gosod y safonau sy’n sail i’r holl we.
Sut gafodd hyn ei wneud tan nawr?
Yn gyntaf, rhaid gwahaniaethu rhwng dau fath o PLU (TLD):
Y PLU-cg (neu yn Saesneg, y cc-TLD)
- Codau gwlad (country codes) yw’r PLU hwn.
- Mae’r parthau yma’n cynnwys dwy lythyren, e.e., .uk, .fr, .es
- Mae’r parthau yma’n (heblaw am rai eithriadau) yn cyd-fynd â rhestr godau gwlad ISO-3166 a gyhoeddir gan ISO (International Standards Organisation), sef y safon rhyngwladol a dderbynnir yn gyffredinol.
Dywed ICANN yn glir nad eu penderfyniad hwy yw beth sydd, a beth nad yw, yn wlad (neu efallai’n fwy cywir, gwladwriaeth). Os yw tiriogaeth am ei pharth ei hun yna’n rhaid ei bod wedi ei chynnwys ar restr ryngwladol ISO-3166. Dywed ISO na allant gynnwys Cymru yn ISO-3166-1 gan nad yw Cymru’n cyrraedd y meini prawf a osodwyd gan y Cenhedloedd Unedig i’w chydnabod yn wladwriaeth annibynnol.
Mae’r codau a ddefnyddir gan ICANN bellach wedi tyfu i fwrdd o’r canllaw ISO 3166-1 er y cedwir at godau a gyflwynwyd yn gynharach o dan reolau eraill hefyd. Er enghraifft, gwelir nad yw ‘uk’ (a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o gyfeiriadau yn y Deyrnas Gyfunol) yn god swyddogol yn ôl rhestr ISO 3166-1, ac mai’r cod priodol ar gyfer y wladwriaeth yno yw ‘gb’.
Felly mae cgPLUau yn cael eu defnyddio er nad ydynt ar restr cod dwy lythyren ISO-3166-1 sef, ‘ac’ (Ynys Ascension yng nghanol Môr Iwerydd), ‘gg’ (Guernsey), ‘im’ (Ynys Manaw), ‘je’ (Jersey), ’su’ (yr Undeb Sofietaidd), ‘tp’ (Dwyrain Timor), ‘uk’ (Y Deyrnas Unedig) ‘yu’ (Iwgoslafia).
Mae’r sefyllfa o ran parthau’r rhyngrwyd yn y Deyrnas Unedig yn ddryslyd iawn. Nid yw Jersey, Guernsey nag Ynys Manaw ar restr ISO-3166-1 ond mae ganddynt barthau, ac mae’r DU wedi ei rhestru fel ‘gb’ yn ISO-3166-1, er taw ‘uk’ sy’n ymddangos mewn cyfeiriadau gwefannau.
Mae gan rai ardaloedd hefyd eu cgPLU er nad ydynt yn wladwriaethau annibynnol nac hyd yn oed yn wledydd: Antarctica a’r Undeb Ewropeaidd. Ceir hefyd sawl ynys fechan, megis Pitcairn, ‘pn’, sydd â phoblogaeth o 8. Mae rhai o’r rhain yn dod o dan awdurdod Awstralia a Seland Newydd ond mae ganddynt, serch hynny, eu cod ISO-3166 a’u DNS.
Nid ydym felly wedi rhoi’r ffidil yn y to o gael cgPLU i Gymru ond yn y tymor byr mae parth generig .’cym’ yn llawer mwy realistig.
PLU generig (generic TLD)
Mae Parthau Lefel Uchaf generig yn cynnwys tair neu fwy o lythrennau a hyd yn hyn ceir tri math:
1. Parthau Lefeul Uchel hanesyddol, ers geni’r Rhyngrwyd
Mae yna 7 ohonynt a’r rhain oedd y cyntaf i’w creu:
- .com: Yn wreiddiol ar gyfer cwmnïau ac e-fasnach. Bellach nid oes rheolaeth drosto a gellir ei ystyried yn barth defnydd rhydd.
- .net: Yn wreiddiol gwelwyd hwn fel parth ar gyfer darparwyr gwasanaeth arlein a gwasanaethau rhwydwaith, ond gydag amser cafwyd ei rheoli’n llai fanwl a daeth yn barth agored.
- .org: Yn wreiddiol ar gyfer sefydliadau (organisations). Bellach, nid oes rheolaeth arno a gellir ei ystyried yn barth rhydd.
- .edu: Yn wreiddiol ar gyfer prifysgolion a’r byd addysgol. Yn gyfredol, fe’i cedwir yn unigswydd ar gyfer defnydd addysgol.
- .gov: Yn wreiddiol ar gyfer defnydd llywodraeth (government). Yn gyfredol fe’i defnyddir yn unigswydd gan lywodraeth Unol Daleithiau America.
- .mil: Yn wreiddiol ar gyfer defnydd milwrol. Yn gyfredol fe’i ddenfyddir yn unigswydd gan luoedd arfog UDA.
- .int: Yn wreiddiol ar gyfer endidau rhyngwladol. Yn gyfredol fe’i defnyddir gan yr Undeb Ewropeaidd a rhai sefydliadau rhyngwladol eraill.
2. PLU heb nawdd, ers 2000. (Non-sponsored TLD)
Parthau yw’r rhain nad ydynt wedi eu cefnogi gan gymuned benodol sy’n mynnu arolygu eu defnydd yn agos iawn.
Gweithreda’r parthau hyn o dan bolisïau a sefydlwyd gan y gymuned ryngrwyd fyd-eang, yn uniongyrchol drwy ICANN.
Y parthau hyn yw:
- .biz: Ar gyfer cwmniau (o’r gair business). Yn gyfredol nid oes reolaeth a gellir ei ystyried yn barth defnydd rhydd.
- .info: Fel estyniad o .net mae’n barth ar gyfer defnydd rhydd llwyr.
- .name: Parth ar gyfer unigolion neu gyrff cyfreithlon sydd am gofrestru eu henwau a’u cyfenwau.
- .pro: Ar gyfer proffesiynnau proffesiynnol (cyfreithwyr, doctoriaid etc).
- .mobi: Ar gyfer darparu mynediad i’r rhyngrwyd trwy declynau symudol
3. PLU noddedig, ers 2000. (Sponsored TLD)
Mae’r rhain yn barthau egsgliwsif sydd wedi eu cefnogi gan gymuned o ryw fath sy’n penderfynu a all unigoyn neu endid gyfreithiol gofrestru eu parth, eu weithredu ac a ydynt yn perthyn i’r gymuned honno ai peidio.
Mae yno noddwr sy’n cynrychioli’r gymuned. Rhoir y cyfrifoldeb ar y noddwr i ddatblygu a gweinyddu polisïau ar gyfer rheoli’r parth.
Y parthau PLU-n (s-TLD) yma yw:
- .aero: Ar gyfer y diwydiant aeronawtaidd
- .coop: Ar gyfer cyrff cydweithredol
- .museum: Ar gyfer amgueddfeydd
- .cat: ar gyfer y gymuned ieithyddol a diwylliannol Gatalanaidd
Rydym yn ymgyrchu ar gyfer PLU-n (s-TLD) ar gyfer y gymuned ieithyddol a diwylliannol Gymraeg, .cym.




